Lleoedd i Ymweld â nhw
Nawr mae'r bysiau x50 a x52 yn golygu ei bod yn fwy cyfleus nag erioed cyrraedd glan y môr, y siopau, dod o hyd i dafarn gwledig neu fynd i'r sinema. Dyma ddetholiad o syniadau. Cofiwch hefyd bod y gwasanaethau x50 a x52 yn ddelfrydol ar gyfer mynd i gerdded yng nghefn gwlad a chyrraedd canolfan beicio mynydd Llandegla...
Y Rhyl
Gall y Rhyl brofi bod ei hafau yn boethach ac yn fwy heulog ar gyfartaledd na lleoliadau eraill yn y Deyrnas Unedig. Felly, beth am fanteisio ar y tair milltir o dywod euraidd?
Fe ddewch o hyd i adloniant glan y môr traddodiadol yno hefyd. Ewch i'r ffair yn y Pentre, yr Heulfan a'r Twr Awyr. Mae'n hawdd ailgreu hafau'r gorffennol yn y Rhyl drwy gasglu cregyn ar y traeth, rhoi eich traed yn y dwr, mynd am dro ar gefn mul a mwynhau hufen ia. Gweithgaredd poblogaidd arall yw mynd i'r Sw Môr, lle mae'r rhan fwyaf o fysiau yn dod i derfyn eu taith.
A pheidiwch ag anghofio am y detholiad eang o siopau'r stryd fawr yng nghanol y dref
Llanelwy
Ychydig funudau o gerdded o'r X52 mae canol tref Llanelwy, sy'n cynnwys eglwys gadeiriol hynafol lleiaf Prydain. Fe wnaeth cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg yma helpu i gadw'r iaith a'r diwylliant Cymreig yn fyw
Dinbych
Y dref farchnad hon yw un o'r rhai mwyaf hanesyddol yng Ngogledd Cymru. Saif y castell godidog uwchben y dref, ac mae ar agor i'r cyhoedd yn ystod y tymor. Ewch i weld waliau a phyrth canoloesol y dref, a gweld yr hyn sy'n weddill o Eglwys Caerlyr ym muriau'r dref.
Ar ôl crwydro, beth am fynd i dafarn neu gaffi i gael ychydig o fwyd?
Rhuthun
BRhwng Mynydd Hiraethog a Bryniau Clwyd, dywedir bod gan Rhuthun ifwy o adeiladau rhestredig nag unrhyw dref arall yng Nghymru. Chwiliwch am gopi o 'Crwydro Rhuthun' ac edrychwch am Nantclwyd y Dre, y Maen Huail chwedlonol neu ewch i weld yr Hen Garchar. Wedi hynny mwynhewch ymweld â'r siopau bach, annibynnol, y mae Rhuthun yn enwog amdanynt.
Nid yw popeth yn ganoloesol, fodd bynnag. Mae adeilad newydd y Ganolfan Grefft Celfyddydau Cyfoes yn flaengar ac arloesol yn y maes
Canolfan Beicio Mynydd Llandegla
Defnyddiwch y bws i gyrraedd y ganolfan beicio mynydd poblogaidd iawn yn Llandegla gyda'i lwybrau beicio gwych, sy'n addas i ddechreuwyr a beicwyr mwy profiadol. Fedrwch chi ddim dod â'ch beic ar y bws, ond mae croeso i chi logi un gan y ganolfan!
Wrecsam
Mae Wrecsam wedi gweddnewid ei hun yn gyrchfan siopa atyniadol a bywiog. Mae yno siopau traddodiadol y stryd fawr, marchnadoedd, arcêd a siopau mewn strydoedd cul sy'n cydfyw ochr yn ochr ag enwau mawr y stryd fawr fel Marks & Spencer a Debenhams. Ac mae rhan helaeth o ganol y dref ar gyfer cerddwyr yn unig.
Mae'r bws x50 yn mynd i'r orsaf fysiau yng nghanol y dref ac i Stryt y Farchnad ar gyfer siopau a sinema newydd Dol yr Eryrod
Nosweithiau allan yn Wrecsam
Mae'r gwasanaeth gyda'r nos newydd o Rhuthun i Wrecsam yn ddelfrydol ar gyfer galw heibio tafarn wledig neu ddwy, sinema Dol yr Eryrodneu'r Mecca Bingo gerllaw. Mae cysylltiadau gyda'r nos o'r Rhyl a Dinbych ac yn ôl, gyda thocynnau trwodd.
Mae'r bws olaf yn ôl o Wrecsam yn gadael am 2255 yn ystod dyddiau'r wythnos
Tafarnau Gwledig
Mae nifer o dafarnau gwledig ar hyd llwybr yr x50 sy'n ei gwneud yn hawdd mwynhau pryd o fwyd neu ddiod ddiwedd y prynhawn neu gyda'r nos - heb y car. Mae'r Ceffyl Gwyn yn Llanfair DC, y Plough a Gwesty'r Goron ger Llandegla a thafarnau tref Rhuthun. Hefyd mae'r Drover's Arms yn Rhewl a'r King's Head yn Llanrhaeadr
Cerdded
Gallwch ddefnyddio'r bysiau X50 a X52 i gyrraedd peth o olygfeydd cefn gwlad godidocaf Dyffryn Clwyd i fynd am dro ar hyd lonydd a llwybrau troed cefn gwlad, neu ddringo rhai o'r bryniau. Mae'r x50 yn mynd dros dros lwybr Clawdd Offa iei hun, ger Llandegla
Contact Us
01978 820820 | Traveline Cymru
timetable enquiries 0871 200 22 33
Please remember to check opening times, visiting times, etc before you
travel with us | Disclaimer