Cysylltiadau

Rydym wedi ceisio ei gwneud mor hawdd â phosibl i chi ddefnyddio'r x50 a'r x52 drwy gysylltu gyda gwasanaethau eraill lle bo modd. Ffordd gyfleus a rhad o newid bysiau yn ne Sir Ddinbych a defnyddio llawer o'r bysiau yn Sir y Fflint yw prynu'r tocyn Connexxions+ newydd

Yn Rhuthun

Mae bysiau dethol o'r Rhyl a Wrecsam yn cysylltu yn Rhuthun gyda bysiau i ac o Gorwen. Mae hyn yn cynorthwyo pobl sy'n byw yn Llanfair DC a Phwllglas i gyrraedd Wrecsam. Mae rhai bysiau gwasanaeth 150 Rhuthun - Corwen yn cysylltu gyda'r X94 i'r Bala, Dolgellau a'r Bermo yng Nghorwen (ni ellir defnyddio tocyn Connexxions+ ar y gwasanaeth X94). Hefyd ceir bysiau trwodd ar y gwasanaeth 150 rhwng Corwen, Rhuthun a Dinbych

Mae'n hawdd iawn newid bysiau yn Rhuthun. Mae'r bysiau yn defnyddio'r arosfannau bws yn un ai Stryd y Farchnad neu Ffordd Wynnstay, sydd nesaf at ei gilydd, y naill ochr i brif fynedfa Neuadd y Sir Cyngor Sir Ddinbych.

Cofiwch ofyn am docyn diwrnod Connexxions+

Tocyn trwodd i/o Gorwen

Prynwch docyn trwodd ar yr x50 a'r x52 a theithio i ac o fannau i Gorwen. Mae Connexxions+ yn ddilys ar yr x50, x52 a'r bysiau 150 i Gorwen. Mae Gwasanaeth 150 a weithredir gan Arriva hefyd yn gweithredu o Gorwen i Rhuthun a Dinbych. Gan amlaf gall teithwyr aros ar y bws i fynd ymlaen i'r Rhyl. Mae tocynnau Connexxions+ yn ddilys rhwng Corwen, Rhuthun a Dinbych yn unig

Bysiau gyda'r nos ac ar y Sul yn Rhuthun

Mae bysiau gyda'r nos yn gweithredu o'r Rhyl i Rhuthun; ac o Rhuthun i Wrecsam. Dyluniwyd yr amserlen i gysylltu, a cewch brynu tocyn trwodd. Mae tocynnau Connexxions+ dilys yn dderbyniol ar y ddau wasanaeth. Mae tocynnau dychwelyd dilys a roddwyd gan GHA Coaches ar yr X50 a'r X52 a'r tocyn dydd Connexxions+ yn ddilys ar wasanaethau 51/52/53 Arriva ar ôl 1815 (ac ar y gwasanaeth 35 a 36)

Bysiau Eraill

Medrwch brynu tocyn dydd Connexxions+ sydd ar gael ar yr holl fysiau yn ardal Rhuthun

Mae bysiau Fflecsi o Rhuthun i bentrefi i'r de a'r gorllewin o Rhuthun wedi eu hamseru i gyfarfod y bysiau x50 a x52 o Wrecsam a'r Rhyl. Mae tocyn dydd Connexxions+ yn ddilys ar bob un o'r gwasanaethau hyn. Mae bysiau gyda'r nos yn cysylltu gyda'r gwasanaeth bws Fflecsi i'r pentrefi hefyd

ToI ddefnyddio'r bws Fflecsi bus mae angen i chi aros yn Stryd y Farchnad a dweud wrth y gyrrwr lle rydych chi eisiau mynd (cyn belled a'i fod yn bentref ar lwybr taith y bws)

Yn y Rhyl

Bydd bysiau yn defnyddio gorsau fysiau newydd y Rhyl pan fydd wedi'i chwblhau. Tan hynny, defnyddir Stryd Cinmel gerllaw. Mae'r orsaf fysiau yn ei gwneud yn hawdd cyfnewid rhwng bysiau'r ardal a threnau.

Mae'r gwasanaeth x50 a x52 yn gwerthu ac yn derbyn tocynnau North Wales Rover y gellir eu defnyddio ar fysiau'r gweithredwyr sy'n cymryd rhan yn y cynllun a'r holl drenau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ac i Gaer. that can be used on buses of participating operators and all trains in North East Wales and to Chester

Yn Wrecsam

Mae bysiau'n defnyddio Gorsaf Fysiau Wrecsam ar gyfer ystod eang o wasanaethau yn ardal Wrecsam.

Mae'r orsaf fysiau lai na 10 munud o gerdded o orsaf drefnau Wrecsam Cyffredinol. Mae'r gwasanaeth x50 a x52 yn gwerthu ac yn derbyn tocynnau North Wales Rover y gellir eu defnyddio ar fysiau'r gweithredwyr sy'n cymryd rhan yn y cynllun a'r holl drenau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ac i Gaer




Contact Us 01978 820820 | Traveline Cymru timetable enquiries 0871 200 22 33
Please remember to check opening times, visiting times, etc before you travel with us | Disclaimer